2013 Rhif 1050 (Cy . 112)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 6 (adrannau 58 i 80) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ynghylch pwyllgorau trosolwg a chraffu awdurdodau lleol (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau hyn, a gaiff eu gwneud o dan adrannau 58 a 172(6) o'r Mesur, yn caniatáu i ddau awdurdod lleol neu ragor benodi cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu i lunio adroddiadau neu wneud argymhellion i unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau neu eu gweithrediaethau ynghylch materion sy'n effeithio ar eu hardaloedd. 

Mae rheoliad 1 yn cynnwys darpariaethau enwi, cychwyn a chymhwyso.

Mae rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau dehongli.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth i ddau awdurdod lleol neu ragor (“yr awdurdodau penodi”) benodi cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu i arfer swyddogaethau i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau neu eu gweithrediaethau ar unrhyw fater sy'n effeithio ar ardal gyfan neu ran o ardal pob un o'r awdurdodau penodi ac nad yw hefyd yn fater wedi ei eithrio. Mater wedi ei eithrio yw mater sy'n dod o fewn cylch gwaith pwyllgor trosedd ac anhrefn awdurdod lleol.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau penodi ymrwymo mewn cytundeb ac mae'n gwneud darpariaeth ynghylch cynnwys y cytundeb.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch is-bwyllgorau cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch cadeirydd cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu ac unrhyw is-bwyllgorau.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch terfynu aelodaeth o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu pan fo person yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod.

Mae rheoliad 10 yn darparu na chaiff unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig o’r awdurdodau penodi fod yn aelod o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu am y cyfnod y mae wedi ei atal dros dro.

Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfethol aelodau i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu.

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfeirio materion at gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu is-bwyllgor.

Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth ynghylch ymatebion i adroddiadau neu argymhellion cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu ac ynghylch cyhoeddi adroddiadau, argymhellion ac ymatebion.

Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysu personau dynodedig am adroddiadau ac argymhellion y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu.

Mae rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth ynghylch eithrio gwybodaeth esempt a chyfrinachol o adroddiadau ac argymhellion a gyhoeddir, ac ymatebion a gyhoeddir i adroddiadau ac argymhellion.

  

 


2013 Rhif 1050 (Cy. 112)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013

Gwnaed                                  30 Ebrill 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       2 Mai 2013

Yn dod i rym                              24 Mai 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 58(1) a 172(6) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Mai 2013.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn,

mae i “awdurdodau penodi” (“appointing authorities”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu” (“joint overview and scrutiny committee”) yw pwyllgor a benodir o dan reoliad 3(1);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000([2]);

mae i “mater wedi ei eithrio” (“excluded matter”) yr un ystyr ag sydd iddo yn adran 58(2) o'r Mesur;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011; ac

mae i “person dynodedig” yr un ystyr â “designated person” yn adran 21(18) o Ddeddf 2000.

Penodi cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu a'i swyddogaethau

3.(1)(1) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, caiff dau awdurdod lleol neu ragor (“yr awdurdodau penodi”) benodi cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, a threfnu i'r pwyllgor arfer unrhyw swyddogaethau sy'n dod o fewn paragraff (2) a benderfynir gan yr awdurdodau hynny.

(2) Mae'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn swyddogaethau sy’n ymwneud â llunio adroddiadau neu wneud argymhellion i unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau penodi ac i unrhyw un neu ragor o'u gweithrediaethau, ynghylch unrhyw fater—

                           (i)    nad yw'n fater wedi ei eithrio; a

                         (ii)    sy'n effeithio ar ardal gyfan neu ran o ardal pob un o'r awdurdodau penodi.

Trefniadau Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu

4.(1)(1) Pan fo dau awdurdod penodi neu ragor yn penodi cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, rhaid iddynt ymrwymo mewn cytundeb—

(a)     sy'n nodi'r materion y caiff y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu lunio adroddiadau a gwneud argymhellion yn eu cylch;

(b)     sy'n pennu nifer yr aelodau y caniateir eu penodi i'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, ac sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cyfnod yr aelodau hynny yn y swydd;

(c)     sy’n cynnwys darpariaeth ynghylch cworwm cyfarfodydd y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu ac unrhyw is-bwyllgor y mae’r pwyllgor yn ei benodi;

(d)     sy'n gwneud darpariaeth am y cyfnod y bydd y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn parhau;

(e)     sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn i awdurdod penodi dynnu'n ôl o'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu; ac

(f)      sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau gweinyddol y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, ac mae rhaid i hynny gynnwys bod Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd yr awdurdodau penodi (neu un ohonynt) yn darparu’r lefel briodol o gymorth swyddogion ac adnoddau eraill i'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu.

(2) Ym mharagraff (1)(f), mae i “Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd” (“Head of Democratic Services”) yr un ystyr ag sydd iddo yn adran 8 o'r Mesur.

Aelodaeth o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu

5.(1)(1) Y personau sy’n gymwys i’w penodi yn aelodau o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn unol â rheoliad 3(1) yw—

(a)     aelodau, ac eithrio aelodau gweithrediaeth yr awdurdodau penodi; a

(b)     personau a benodir yn unol â pharagraff 8 neu 9 o Atodlen 1 i Ddeddf 2000 i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu o unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau penodi.

(2) Rhaid i aelodau cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu a benodir yn unol â rheoliad 3(1) gynnwys yr un nifer o bersonau o bob un o’r awdurdodau penodi.

(3) Nid yw cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu i'w ystyried yn gorff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989([3]) (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.

(4) Rhaid i bob awdurdod penodi sicrhau, i'r graddau y mae'n ymarferol, fod aelodau cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu sy’n dod o fewn paragraff (1)(a) yn adlewyrchu cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol am y tro ymhlith aelodau'r awdurdod penodi.   

Is-bwyllgorau i gyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu

6.(1)(1) Caiff cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu—

(a)     penodi un is-bwyllgor neu ragor o blith ei aelodau; a

(b)     trefnu i unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau gael eu harfer gan y cyfryw is-bwyllgor.

(2) Ni chaniateir i is-bwyllgor i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu arfer unrhyw swyddogaethau ac eithrio’r rhai a roddir iddo o dan baragraff (1)(b).

(3) Mae unrhyw adroddiad a lunnir neu unrhyw argymhellion a wneir, yn unol â threfniadau o dan baragraff (1)(b), gan is-bwyllgor i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan benderfyniad y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu.

(4) Mae is-bwyllgor i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu i gynnwys nifer cyfartal o aelodau o bob un o'r awdurdodau penodi.

Trafodion, etc

7.(1)(1) Rhaid i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu benodi cadeirydd y pwyllgor, a chaiff benodi dirprwy gadeirydd o blith yr aelodau hynny a benodir o dan reoliad 3(1). 

(2) Caniateir i drefniadau o dan reoliad 3(1) gynnwys darpariaeth ar gyfer y cyfnod y bydd y cadeirydd yn parhau yn y swydd ac ar gyfer cylchdroi swydd y cadeirydd rhwng aelodau'r awdurdodau penodi.

(3) Rhaid i is-bwyllgor i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu benodi cadeirydd yr is-bwyllgor, a chaiff benodi dirprwy gadeirydd yr is-bwyllgor, o blith yr aelodau hynny a benodir o dan reoliad 6(1).

(4) Caiff pob aelod o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu a benodir yn unol â rheoliad 3(1) neu o is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor a benodir yn unol â rheoliad 6(1) bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

(5) Pan geir yr un nifer o bleidleisiau yn un o gyfarfodydd cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu is-bwyllgor, mae gan y cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

Cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau, etc

8. Mae cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, neu is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, i'w drin fel pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972([4]) (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).

Terfynu aelodaeth pan fo person yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod

9.(1)(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i berson—

(a)     a benodir i fod yn aelod o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn unol â rheoliad 3(1); a

(b)     sy'n aelod o un o'r awdurdodau penodi ar adeg y penodiad hwnnw.

(2) Os yw person y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod penodi hwnnw, yna mae'r person hwnnw ar unwaith yn peidio â bod yn aelod o'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu hefyd.

(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw person—

(a)     yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod penodi oherwydd iddo ymddeol; a

(b)     yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.

Atal aelodaeth person dros dro

10. Os caiff person a benodir yn aelod o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu ei atal dros dro rhag bod yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o un o’r awdurdodau penodi, ni chaiff y person hwnnw wasanaethu fel aelod o’r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu am y cyfnod y mae wedi ei atal dros dro.

Cyfethol

11.(1)(1) Caiff cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, neu is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, benderfynu cyfethol aelodau ychwanegol i wasanaethu ar y pwyllgor neu'r is-bwyllgor, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5).

(2) Ni chaniateir i berson gael ei benodi’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, nac o is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, oni chymeradwyir y penodiad gan fwyafrif o aelodau'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor.

(3) Nid oes gan berson a gyfetholir i wasanaethu ar gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, neu ar is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, hawl i bleidleisio mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

(4) Ni chaniateir i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, nac is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, gyfethol person sy'n aelod o awdurdod lleol, p'un a yw'r awdurdod hwnnw yn un o'r awdurdodau penodi ai peidio.

(5) Caiff y pwyllgor neu'r is-bwyllgor perthnasol dynnu'n ôl, drwy bleidlais fwyafrif, aelodaeth person a gyfetholir i wasanaethu ar gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, neu ar is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor, ar unrhyw adeg.

Cyfeirio materion at gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, etc

12.(1)(1) Rhaid i drefniadau o dan reoliad 3(1) gynnwys darpariaeth sy'n galluogi—

(a)     unrhyw aelod o gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu i gyfeirio at y pwyllgor unrhyw fater sy'n berthnasol i’w swyddogaethau;

(b)     unrhyw aelod o is-bwyllgor i’r cyfryw bwyllgor i gyfeirio at yr is-bwyllgor unrhyw fater sy'n berthnasol i’w swyddogaethau; ac

(c)     unrhyw aelod o unrhyw un o’r awdurdodau penodi i gyfeirio at gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdodau hynny, unrhyw fater llywodraeth leol sy’n berthnasol i swyddogaethau’r pwyllgor.

(2) At ddibenion paragraff (1) mae darpariaeth yn galluogi person i gyfeirio mater at gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu at is-bwyllgor i'r cyfryw bwyllgor os yw'n galluogi'r person hwnnw i sicrhau y caiff y mater ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor hwnnw neu'r is-bwyllgor hwnnw a'i drafod yn y cyfarfod hwnnw.

(3) Pan fo’r pwyllgor yn llunio adroddiad neu’n gwneud argymhellion ynghylch mater y cyfeiriwyd ato gan yr aelod hwnnw, rhaid iddo ddarparu copi o’r adroddiad neu’r argymhellion i’r aelod hwnnw.

(4) Yn y rheoliad hwn, mae i “mater llywodraeth leol”, mewn perthynas ag aelod o awdurdod penodi, yr un ystyr ag a roddir i “local government matter” yn adran 21A(12) o Ddeddf 2000.

Dyletswydd i ymateb i gyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, etc

13.(1)(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu yn llunio adroddiad neu'n gwneud argymhellion i unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau penodi neu eu gweithrediaethau yn unol â rheoliad 3(2).

(2) Caiff y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu gyhoeddi'r adroddiad neu'r argymhellion.

(3) Caiff y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod neu'r awdurdodau penodi, neu'r weithrediaeth neu'r gweithrediaethau—

(a)     ystyried yr adroddiad neu'r argymhellion ac ymateb iddynt, gan nodi pa gamau (os oes rhai) y mae'n bwriadu eu cymryd neu y maent yn bwriadu eu cymryd; a

(b)     cyhoeddi'r ymateb, os yw'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu wedi cyhoeddi adroddiad neu argymhellion o dan baragraff (2).

(4) Pan fo’r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu wedi darparu copi o’r adroddiad neu’r argymhellion i aelod o awdurdod penodi o dan reoliad 12(4), rhaid iddo ddarparu copi o’r ymateb i’r aelod hwnnw.

Hysbysu person dynodedig am adroddiadau neu argymhellion

14.(1)(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo adroddiad neu argymhellion ynghylch mater yn ymwneud â pherson dynodedig yn unol ag adran 21(2ZA) o Ddeddf 2000.

(2) Caiff y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu—

(a)     anfon copi o'r adroddiad neu'r argymhellion i'r person dynodedig; a

(b)     gofyn i'r person dynodedig roi sylw i'r adroddiad neu'r argymhellion.

Cyhoeddi etc adroddiadau, argymhellion ac ymatebion: gwybodaeth gyfrinachol ac esempt

15.(1)(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a)     cyhoeddi o dan reoliad 12 unrhyw ddogfen sy'n cynnwys—

                           (i)    adroddiad neu argymhellion cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu; neu

                         (ii)    ymateb unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau penodi neu eu gweithrediaethau i unrhyw adroddiad neu argymhellion o’r fath;

(b)     darparu copi o adroddiad neu argymhellion i berson dynodedig o dan reoliad 13.

(2) Wrth i'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu, yr awdurdod neu’r awdurdodau penodi, y weithrediaeth neu’r gweithrediaethau gyhoeddi'r ddogfen neu ddarparu copi o'r ddogfen i berson dynodedig—

(a)     rhaid eithrio unrhyw wybodaeth gyfrinachol; a

(b)     caniateir eithrio unrhyw wybodaeth esempt berthnasol.

(3) Os caiff gwybodaeth ei heithrio o dan baragraff (2), wrth i'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu'r awdurdod neu’r awdurdodau penodi neu'r weithrediaeth neu’r gweithrediaethau gyhoeddi'r ddogfen neu ddarparu copi o'r ddogfen—

(a)     caniateir disodli'r rhan o'r ddogfen sy'n datgelu'r wybodaeth a rhoi crynodeb nad yw'n datgelu'r wybodaeth honno yn ei lle, a

(b)     rhaid gwneud hynny pe byddai'r ddogfen yn gamarweiniol neu pe na fyddai'n rhesymol ddealladwy yn sgil eithrio'r wybodaeth.

(4) Yn y rheoliad hwn—

mae i “gwybodaeth esempt” yr ystyr a roddir i “exempt information” gan adran 100I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac, mewn perthynas ag unrhyw adroddiad neu argymhellion pwyllgor neu gyd-bwyllgor sydd â swyddogaethau o dan adran 21(2)(f) o Ddeddf 2000, mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth sy'n wybodaeth esempt o dan adran 186 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([5]);

ystyr “gwybodaeth esempt berthnasol” (“relevant exempt information”) yw—

(a)     mewn perthynas ag adroddiad neu argymhellion cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu is-bwyllgor, gwybodaeth esempt o ddisgrifiad a bennir mewn penderfyniad gan y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu is-bwyllgor o dan adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a oedd yn gymwys i'r trafodion, neu ran o'r trafodion, mewn unrhyw gyfarfod o'r cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu'r is-bwyllgor lle yr ystyriwyd yr adroddiad neu'r argymhellion;

(b)     mewn perthynas ag ymateb yr awdurdod, gwybodaeth esempt o ddisgrifiad a bennir yn y cyfryw benderfyniad gan yr awdurdod a oedd yn gymwys i'r trafodion, neu ran o'r trafodion, mewn unrhyw gyfarfod o'r awdurdod lle yr ystyriwyd yr adroddiad, neu’r ymateb neu'r argymhellion;

(c)     mewn perthynas ag ymateb y weithrediaeth, gwybodaeth esempt o ddisgrifiad a bennir yn y cyfryw benderfyniad gan y cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu neu is-bwyllgor a oedd yn gymwys i'r trafodion, neu ran o'r trafodion, mewn unrhyw gyfarfod o'r awdurdod lle yr ystyriwyd yr adroddiad, neu’r ymateb neu'r argymhellion;

mae i “gwybodaeth gyfrinachol” yr ystyr a roddir i “confidential information” gan adran 100A(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (mynd i gyfarfodydd prif gynghorau).

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

30 Ebrill 2013

 



([1])           2011 mccc 4.

([2])           2000 p.22.

 

([3])           1989 p.42.

([4])           1972 p.70.

([5])           2006 p.42.